Dyfodol S4C

Dyfodol S4C

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
By Hywel Wiliam,
Friday, 27th April 2018
S4C Event Panel

Huw Jones, Euryn Ogwen Williams, Owen Evans, a Ruth McElroy

Yn dilyn yr Adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac a ysgrifennwyd gan Euryn Ogwen Williams, cynhaliodd RTS Cymru ddigwyddiad ar 19 Ebrill ym Mhrifysgol De Cymru i drafod dyfodol S4C.  Roedd Euryn Ogwen Williams yn un o aelodau’r panel mewn trafodaeth yn yr ATRiuM, a gadeiriwyd gan Ruth McElroy, Athro yn y Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru, ynghyd â Phrif Weithredwr S4C Owen Evans, a Chadeirydd S4C, Huw Jones.

Cafwyd cyflwyniad agoriadol gan Huw Jones.  Soniodd am ymateb S4C i’r Adolygiad, gan groesawu bwriad Llywodraeth y DU i ryddhau’r darlledwr i gomisiynu cynnwys digidol na chaiff ei ddarlledu.  “Mae’r addewid o gylch gwaith newydd - gyda phwyslais ar ddatblygiad digidol a chynulleidfa eang - yn hanfodol” meddai Jones.  Cyhoeddodd hefyd gynlluniau i wario £3 miliwn dros y 3 blynedd nesaf i ariannu strategaeth ddigidol newydd, gan ychwanegu y bydd “angen sgiliau newydd yn fewnol, - ffordd newydd o feddwl - sy’n gyrru datblygiadau newydd yn eu blaenau ond ar yr un pryd yn cynnal y sianel linol”.  Dywedodd Owen Evans fod technoleg newydd yn cynnig cyfle i S4C ddeall dewisiadau’r gynulleidfa drwy ddadansoddi a phersonoli ei wasanaethau digidol.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith, eglurodd Euryn Ogwen pam fod yr Adolygiad wedi argymell y dylid ariannu S4C yn gyfangwbl drwy ffi’r drwydded, gan gynnwys y grant presennol gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a’r Cyfryngau, (tua 8 y cant o incwm y sianel ar hyn o bryd).  “Yn fy marn i, mae’n ddewis rhwng derbyn cyllid y llywodraeth, a allai amrywio’n flynyddol, a’r sefydlogrwydd a gynigir gan setliad cyllid ffi’r drwydded am gyfnod o bum mlynedd” meddai Euryn Ogwen.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd yr Adolygiad, ac mae wedi gofyn i S4C ddarparu cynllun gweithredu manwl erbyn mis Gorffennaf 2018.

(Cyfieithydd: Sian Brown)

 

You are here