"A fydd band eang cyflym yn dod â teledu deallus i ardaloedd gwledig?"

"A fydd band eang cyflym yn dod â teledu deallus i ardaloedd gwledig?"

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
By Hywel Wiliam a Tim Hartley,
Wednesday, 26th August 2015

Theatr S4C, Eisteddfod Genedlaethol Meifod.

"Yn y gorffennol mi roedd yn wyrth i gael signal symudol yn yr Eisteddfod, ond y flwyddyn hon rydym wedi cael cysylltiadau 200 megabeit  ar y cae".  Roedd Peter Williams o Lywodraeth Cymru yn defnyddio pentref bach Meifod yng ngŵyl diwylliannol blynyddol Cymru fel enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud i wella cysylltedd.

Ymunodd Peter gyda Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Ofcom, a Huw Marshall o S4C ar banel wedi ei gadeirio gan Sioned Mills, o gwmni Boom Pictures, i drafod gwylio teledu trwy gyfrwng band eang cyflym iawn.  Amlinellodd Peter y newyddion da ar gyfer cysylltedd band eang, bod 79% o leoliadau yng Nghymru yn awr yn gallu cael band eang cyflym iawn.  Mae prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru yn anelu at gynyddu argaeledd i 96% o safleoedd erbyn haf 2016, gyda'r 4% sy'n weddill yn cael eu cyrraedd drwy brosiect mewn lanw fydd yn defnyddio amrywiaeth o dechnolegau.

Er byddai y cysylltedd hwn yn galluogi gwylwyr mewn ardaloedd gwledig i wneud defnydd llawn o'r gwasanaethau ar eu setiau teledu clyfar, nododd Rhodri Williams gallai hefyd herio'r modelau masnachol presennol ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gyda apiau fel Netflix yn cymryd gwylwyr oddi wrth y canllaw rhaglenni electronig a theledu prif ffrwd.  Ychwanegodd pe bai'r nifer sy'n gwylio ar-lein yn parhau i gynyddu, fel yr awgrymau'r tueddiadau presennol, mi fyddai pwysau ar Lywodraeth y DU i ddiffodd gwasanaethau Freeview a gwerthu amleddau UHF gwerthfawr i weithredwyr ffonau symudol.

Ond pwysleisiodd Huw Marshall y cyfleoedd ar gyfer darlledwyr gan gynnwys S4C, sydd wedi datblygu aps ar-lein newydd a gwasanaethau, megis CywTube, gwasanaeth i blant cyn-ysgol ar y we.  Ychwanegodd fod S4C yn ymateb i'r galw sylweddol gan wyliwr am gynnwys ffurf byr a'u defnydd o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael mynediad i gynnwys a rhaglenni.

 

You are here