RTS Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2017

RTS Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2017

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
By Hywel Wiliam,
Friday, 27th April 2018

Panel Ffermio: Aled Elidyr, Richard Rees, Emyr Roberts, Aled Jones, Ffion Rees & Heledd Hardy

ENGLISH

Yn dilyn ei lwyddiant y llynedd, mae RTS Cymru eto wedi creu partneriaeth â nifer o sefydliadau yn y byd ffilm a theledu yng Nghymru i gynnal digwyddiadau yn ‘Sinemaes’ ym mis Awst, sef sinema dros dro a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, Ynys Môn.

Cynhaliodd RTS Cymru sgriniad arbennig o gyfres amaethyddol eiconig S4C, Ffermio, a gynhyrchwyd gan gwmni annibynnol Telesgop o Abertawe, ac a olygwyd gan Ffion Rees, myfyrwraig ol-radd o Brifysgol De Cymru.  Bu Rees yn astudio gyda Heledd Hardy, darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru ac aelod o bwyllgor RTS Cymru, a gadeiriodd drafodaeth yn dilyn y sgriniad.  Roedd y drafodaeth yn ystyried sut y bu’r gyfres, yn ystod ugain mlynedd o fodolaeth, yn adrodd ar fywyd amaethyddol yng Nghymru.  Aelodau’r panel oedd Emyr Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (yr FUW), Aled Jones, Cadeirydd Bwrdd Llaeth Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, un o gyflwynwyr y rhaglen,  Aled Elidyr, a chynhyrchydd y gyfres, Richard Rees. Yn ôl Hardy, “mae’r lluniau o’r archifau yn dangos sut mae’r gyfres wedi llwyddo i drafod yn effeithiol rai o straeon pwysig y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001, y tywydd garw yn 2010, a’r dadleuon tanbaid presennol ar Brexit”.

Mae grŵp o siopau, gan gynnwys siop trin gwallt, caffi a bar gwin ar brif stryd Porthaethwy, Ynys Môn, yn ffurfio rhan o’r set ar gyfer Rownd a Rownd, drama sebon i ieuenctid ar S4C.  Cafodd aelodau’r RTS daith arbennig o amgylch y safle cyn mynd i drafodaeth a gynhaliwyd yn Sinemaes, dan gadeiryddiaeth Iestyn Garlick, cyn actor ac un o aelodau mwyaf hirhoedlog y cast, sydd bellach yn Gadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).  Eglurodd y cynhyrchydd, Bedwyr Rees a’r golygydd sgriptiau, Tony Llewelyn fod “y set yn teimlo’n gredadwy am ei bod wedi’i lleoli yn y dref, ac yn aml mae pobl yn dod i mewn i’r siop gan feddwl ei bod yn siop go iawn”.  Roedd cyfres Rownd a Rownd yn dathlu ei phen-blwydd yn 21 oed y llynedd.  Mae’r gyfres yn cael ei darlledu ddwywaith yr wythnos ar S4C, ac yn ôl cynhyrchwyr Rondo Media, mae amcangyfrifon annibynnol yn awgrymu bod y gyfres wedi cyfrannu dros £70 miliwn i’r economi leol.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos dangoswyd rhaglen ddogfen fer yn Sinemaes i dalu teyrnged i’r cynhyrchydd drama, Peter Edwards (ar y dde), a fu farw y llynedd.  Roedd y ffilm yn cynnwys cyfweliad byr gyda Hywel Wiliam, Gweinyddwr Canolfan RTS Cymru, ac i ddilyn cafwyd sgriniad o’r ddrama am yr Ail Ryfel Byd, Pum Cynnig i Gymro, a gynhyrchwyd a chyfarwyddwyd gan Edwards.

I gloi wythnos brysur, ar faes yr Eisteddfod cyhoeddodd Guto Bebb AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru, y byddai’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal adolygiad o S4C.

Darllenwch Mwy yn y datganiad swyddogol i’r wasg.

(Cyfieithydd: Sian Brown)

 

You are here