Digwyddiad Nadolig RTS Cymru

Digwyddiad Nadolig RTS Cymru

Wednesday, 13 December, 2017
7.30pm

Location

Clwb y Cameo,
3 & 5, Pontcanna Street,
CARDIFF
CF11 9HQ
United Kingdom
Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
RTS National Event

 
​Digwyddiad Nadolig RTS Cymru

Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol , S4C

Ar gyfer ein digwyddiad Nadolig, mi fydd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, yn son am ei gweledigaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Mae Amanda yn arwain tîm creadigol S4C gyda’r amcan o gomisiynu cynnwys traws-lwyfannol sy'n creu’r sgwrs, tanio’r dychymyg a chyffwrdd calonnau’r gwylwyr.  Ei uchelgais yw parhau i feithrin perthynas gref a phwysig gyda gwylwyr ffyddlon y sianel yn ogystal â sefydlu perthynas newydd, gyffrous gyda’r gynulleidfa nad ydynt yn gwylio yn rheolaidd ar hyn o bryd.

Cyn ymuno ag S4C, roedd Amanda yn wneuthurwr rhaglenni dogfen llewyrchus a chyfarwyddwr ei chwmni teledu ei hun, TiFiNi.  Enillydd gwobr BAFTA Cymru ac enwebai nifer o wobrau eraill, mae gan Amanda ddealltwriaeth drylwyr ac eang o'r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru a thu hwnt.  Bu’n ffilmio mewn dros 35 o wledydd ar gyfer sianelau byd-eang megis Channel 4, BBC, ITV, National Geographic, S4C, UKTV a Foxtel.  Cafodd Finding Mum and Dad, sef comisiwn cyntaf TiFiNi i Channel 4, ei enwebi am wobr Grierson, Bulldog, a gwobr Broadcast (Rhaglen Ddogfen Orau 2015).

Mae Amanda hefyd yn astudio MSc mewn Seicoleg Busnes ym Mhrifysgol Cwyntry.

 
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly'r cyntaf i’r felin....

RSVP Hywel Wiliam, 07980 007 841

 

Associated Regional Term: 
Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon

Location Details

3 & 5, Pontcanna Street,
CARDIFF
CF11 9HQ
United Kingdom

Related Events

ENWEBIADAU RTS CYMRU WALES NOMINATIONS 2024
Cardiff
Fri, 12/04/2024
RTS and Sky are pleased to host an exclusive in person members’ screening...
Wed, 10/04/2024