RTS Cymru Darlith Flynyddol 2017: 'Facebook, Y Cyfryngau a Democratiaeth'

RTS Cymru Darlith Flynyddol 2017: 'Facebook, Y Cyfryngau a Democratiaeth'

Thursday, 19 October, 2017
7pm - 8pm

Location

Y Senedd,
Bae Caerdydd,
CAERDYDD
CF10 4PZ
United Kingdom
Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
Lectures

 
RTS Cymru: Darlith Flynyddol 2017

Facebook, Y Cyfryngau a Democratiaeth

 
(Derbyniad â diodydd: 6.15 pm – 7 pm)

 

Mewn cysylltiad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Bethan Jenkins AC,
Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chyfathrebu,
yn cyflwyno darlith flynyddol y Gymdeithas Deledu Frenhinol, sy’n cael ei draddodi eleni gan Leighton Andrews,
yr athro Ymarfer Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus ac Arloesi yn Ysgol Fusnes Caerdydd.
 

 
Cyflwynir y noson gan Judith Winnan, Cadeirydd, RTS Cymru.

 
Daeth digwyddiadau yn ystod 2016 â ffocws penodol i'r cwestiwn o 'newyddion ffug' - rôl rhyngrwyd gyfryngwyr megis Facebook, targedu trwm gan grewyr newyddion ffug, a 'bots' a ddefnyddir gan wledydd gelyniaethus i ledaenu'r wybodaeth anghywir.  Mae Facebook hefyd yn un o'r prif-fuddiolwyr hysbysebu ar-lein a symudol.  Mae'n lwyfan pwysig sy’n dominyddu dosbarthu newyddion a mynediad i nifer o appiau ffonau symudol.  Cynllunnir algorithmau Facebook i uchafu’r amser y mae pobl yn gwario o fewn iddo, i annog teyrngarwch personol at ei lwyfan ac mae’n tra-arglwyddiaethu ar yr 'economi sylw', gan atgynhyrchu ac ail-ddosbarthu cynnwys sy’n debygol i atgyfnerthu euogfarnau personol.  Ond mae Facebook hefyd yn darparu llwyfan byddiniad ar gyfer defnyddwyr personol, teuluol, cymunedol, dinesig a gwleidyddol o fewn ei 'ofod'.  Yn y cyfamser, mae sefydliadau newyddion prif ffrwd sefydledig yn teimlo bod angen dod i gytundeb ac ymdrin â safleoedd o'r fath fel Facebook i hyrwyddo dosbarthu eu cynnwys, er y bydd yn cael ei ail-frandio ar gyfer y llwyfan arbennig, gan hyd yn oed creu colled sylweddol o refeniw hysbysebu.  Mae Ofcom yn cydnabod bod Facebook yn 'sefydliad cyfryngau' - ag eto, mae'n gorwedd y tu allan i gwmpas rheoleiddio’r cyfryngau.  Ydy hynny’n iawn?

Roedd Leighton yn gynt yn Weinidog Addysg a Sgiliau a'r Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus mewn Llywodraethau Llafur Cymru Carwyn Jones o 2009 -16, Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru'n un Rhodri Morgan o 2007-9 ac Aelod Cynulliad dros y Rhondda o 2003-16.  Cyn ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, roedd Leighton wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.  Roedd yn Bennaeth Materion Cyhoeddus y BBC yn Llundain o 1993-96 yn ystod yr ymgyrch adnewyddu'r Siarter.  Bu’n rhedeg nifer o fusnesau ym maes cysylltiadau cyhoeddus gan sefydlu ei fusnes ei hun ar ôl gadael y BBC.  Cadeiriodd y Tasglu Newyddion Digidol ar gyfer Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol ers mis Tachwedd 2016.  Mae'n aelod o Fwrdd Golygyddol y Cyfnodolyn Materion Cyhoeddus.

 
​Bydd cyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg ar gael ar gyfer y sesiwn Q&A yn dilyn y ddarlith.

Mae lleoedd yn gyfyngedig.  Cofrestrwch drwy Eventbrite: 
https://www.eventbrite.com/e/rts-annual-lecture-leighton-andrewsfacebook-the-media-and-democracy-tickets-38433792508

 

Associated Regional Term: 
Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon

Location Details

Bae Caerdydd,
CAERDYDD
CF10 4PZ
United Kingdom

Related Events

There are no events coming up at the moment. Check back again soon or become a member to gain free entry and notifications to events..